Bydd cyfle i gofio anwyliaid a chyfrannu at sefydliad cymorth i bobl sydd wedi colli gŵr neu wraig a hwythau o dan 50 blwydd oed yn ystod y Nadolig yng Nghaerdydd eleni.

Fe fydd Gwasanaeth Coffa’r Nadolig yn cael ei gynnal yng Nghapel y Wenallt yn Amlosgfa Thornhill ddydd Sul 11 Rhagfyr 2011 i goffáu anwyliaid, meddai Cyngor Caerdydd.

Mae mwy na 135,000 o ddynion a merched wedi colli eu gwragedd a gŵyr a hwythau’n iau na 50 oed ac mae 53 o blant a phobl ifanc yn colli mam neu dad bob dydd.

Yn ystod y gwasanaeth bydd casgliad yn cael ei gynnal gyda’r arian yn mynd at Sefydliad WAY (Widowed and Young).

Grŵp cymorth i bobl sydd wedi colli gŵr neu wraig a hwythau o dan 50 oed yw’r Sefydliad. Maen nhw’n darparu rhwydwaith cymdeithasol a chymorth i’r rheiny sy’n cael eu heffeithio gan golled.

Tagiau coffa

Yn ystod y Nadolig, bydd y Gwasanaethau Profedigaeth unwaith eto’n gwerthu tagiau coffa am gyfraniad o £2 o leiaf er cof am anwyliaid, meddai’r Cyngor.

Bydd modd i bobl roi tag ar un o’r Coed Nadolig Coffa ar gwrt Capel y Wenallt yng Nghaerdydd. Bydd y coed yno o 5 Rhagfyr 2011 tan 6 Ionawr 2012 pan fyddant yn cael eu tynnu oddi yno’n unol â thraddodiad ‘Nos Ystwyll’. Bydd y cyfraniadau hyn hefyd yn mynd at Sefydliad WAY.

“Gall y Nadolig fod yn gyfnod digon anodd i bobl sydd wedi colli anwylyd ac rydym yn falch iawn o allu rhoi’r cyfle hwn i bobl ddod ynghyd i gofio,” meddai Aelod Gweithredol dros Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Nigel Howell.

“Rydyn ni hefyd yn falch iawn o allu cefnogi Sefydliad WAY, elusen sy’n cynnig cefnogaeth bwysig iawn drwy gydol y flwyddyn i bobl sydd wedi colli rhywun sy’n annwyl iddynt.”