Busnesau - newyddion gwael cyn y Nadolig
Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae mwy o fusnesau wedi cau yng ngwledydd Prydain nag sydd wedi agor.

Yng Nghymru, rhwng 2009-10, roedd y gwahaniaeth o ran canran yn fwy nag yn unrhyw ranbarth economaidd arall, gyda cholled yn y pen draw o 3,000 o fusnesau.

Cymru oedd yr ail o’r gwaelod am nifer y busnesau newydd – yn ôl ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, dim ond 8,000 o fusnesau oedd wedi’u geni, graddfa o 8.5%.

Roedd nifer y marwolaethau hefyd ychydig yn is na’r cyfartaledd, gydag 11,000 o fusnesau’n cau, graddfa o 12.5%.

Trwy wledydd Prydain, roedd 297,000 o fusnesau wedi mynd – 20,000 yn fwy na’r flwyddyn gynt – ac roedd llai o fusnesau newydd wedi’u creu.