Bydd dyn o Gwmbran yn dweud wrth Ymchwiliad Leveson yfory ei fod wedi bod yn ceisio rhybuddio’r cyhoedd am wendidau diogelwch negeseuon ffôn symudol ers dros ddeg mlynedd.

Mae disgwyl i Steven Nott, 44, o Orllewin Pontnewydd, ddweud wrth Ymchwiliad Leveson yfory sut y bu’n ceisio cael rhai o bapurau tabloid Prydain i redeg ei stori ar wendidau diogelwch negeseuon ffonau symudol yn ôl yn 1999.

Yn ôl y gŵr busnes, fe ddaeth yn ymwybodol o’r gwendid yn niogelwch negeseuon ffonau symudol yn 1999 ar ôl iddo gael cyfarwyddiadau gan gwmni Vodafone ynglyn a sut i gael gafael ar ei negeseuon ef ei hun, o ffôn arall.

Wrth geisio ymgyrchu i gael y cwmniau ffôn i gryfhau eu systemau diogelwch, aeth Steven Nott â’i wybodaeth at bapurau newydd y Daily Mirror a’r Sun.

Ond ni chyhoeddwyd y stori gan yr un o’r ddau bapur yn 1999.

Mae Steven Nott yn dweud ar ei flog, www.hackergate.co.uk, ei fod wedi ceisio “rhybuddio’r” cyhoedd am y gwendid diogelwch, ond ei fod yn ofni efallai ei fod yn hytrach wedi helpu’r cyhoedd, trwy dynnu eu sylw nhw at y gwendid.

Mae hefyd yn dweud ei fod wedi cysylltu â heddlu Scotland Yard, y Swyddfa Gartref, y Gwasanaethau Diogelwch a’i Aelod Seneddol ynglŷn â’i bryderon, ond na chafodd unrhyw help ganddyn nhw.

Bydd Steven Nott yn rhoi tystiolaeth o flaen yr ymchwiliad brynhawn fory, ar yr un diwrnod â newyddiadurwr y Guardian, David Leigh, sydd ei hun wedi cyfaddef i hacio ffonau yn y gorffennol – ond sy’n dadlau bod gwneud hynny yn ei achos ef yn gyfiawn, gan ei fod yn ymchwilio i dwyll a llwgrwobrwyo ar y pryd.

Fe fydd tystion yn dechrau rhoi tystiolaeth am 10am bore fory, gyda’r sesiwn yn dod i ben gyda thystiolaeth Steven Nott am 4.30pm.