Mae'r cwmni wedi cyflenwi cwmniau rheilffyrdd
Fe fydd tua 75 o swyddi yn cael eu colli mewn cwmni peirianneg yn y Coed Duon yng Nghymoedd y De.

Mae cwmni Hawker Siddeley Switchgear yn bwriadu cael gwared â 35 o staff parhaol ac mae disgwyl i 40 o swyddi dros dro fynd cyn y Nadolig.


Mae’r cwmni wedi ei lleoli ar Barc Busnes y Coed Duon.

Mae nhw wedi cyflenwi cwmnïau rheilffordd, ffatrïoedd, ysbytai a datblygiadau ffermydd gwynt.

Roedd y gweithwyr wedi cael gwybod ddydd Gwener ac mae perchnogion y cwmni bellach yn trafod gyda’r undebau. Mae’n debyg bod gostyngiad mewn gwerthiant yn gyfrifol am y diswyddiadau.