Mae hyder pobol fusnes yng Nghymru wedi gostwng, yn ôl arolwg newydd.

Dywedodd 66 o berchnogion busnes, a gafodd eu holi gan y Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW), eu bod nhw’n llai hyderus am y dyfodol a hynny er gwaetha cynnydd yn eu helw a buddsoddiad yn 2011.

Yn ôl y ICAEW mae toriadau yn y sector cyhoeddus a chynnydd yn nifer y di-waith wedi gwneud pobl fusnes yn fwy pesimistaidd ynglŷn â’u gobeithion am 2012.

Roedd arweinwyr busnes wedi cael ei holi ynglŷn â pha mor hyderus oedden nhw am ragolygon eu busnes yn y 12 mis nesaf o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Roedden nhw’n sgorio 100 os oedden nhw’n teimlo’n llawer mwy hyderus neu -100 os oedden nhw’n teimlo llawer llai hyderus. Roedd arolwg y ICAEW yn dangos bod hyder busnesau wedi gostwng o 16.5 i -9.2 yn y pedwerydd chwarter.

Dywedodd David Lermon, cyfarwyddwr ICAEW yng Nghymru: “Mae argyfwng yr ewro, cynnydd mewn diweithdra a thoriadau yn y sector cyhoeddus yn amlwg yn cael effaith ac mae’n amlwg bod na bryderon am ddyfodol yr economi a’r posibilrwydd o ddirwasgiad arall.”

Ychwanegodd y byddai 2012 yn flwyddyn anodd arall i nifer o fusnesau yng Nghymru.

Dywedodd Ffederasiwn y Busnesau Bach yng Nghymru bod yr arolwg yn adlewyrchu eu rhagolygon nhw.

Yn ôl llefarydd y Ffederasiwn, Iestyn Davies mae strategaeth economaidd ar y cyd yn hanfodol er mwyn delio â economi Cymru.