Stryd y Brenin yn Wrecsam
Doedd dim lle yn y llety i Mari a Joseff, ond mae siopwyr Nadolig Wrecsam yn wynebu problem arall – sef dim lle yn y maes parcio.

Rhaid i bobol sydd am wneud eu siopa Nadolig yn y dref ddisgwyl am amser hirach nag yn unrhyw ran arall o Brydain cyn gallu dod o hyd i le i barcio, yn ôl pôl piniwn newydd.

Yn ôl yr arolwg gan gwmni yswiriant ceir AXA mae dod o hyd i le i barcio yn fwy o ffwdan na dewis anrhegion i bobol sydd ddim yn gwneud eu siopa Nadolig ar-lein.

Roedd mwy na thraean o’r siopwyr Nadolig a holwyd wedi gorfod disgwyl 30 munud am le i barcio yn ystod y cyfnod cyn yr ŵyl, yn ôl AXA.

Wrecsam oedd y lle gwaethaf ym Mhrydain am oedi cyn dod o hyd i le i barcio. Roedd 18% o’r rheini a holwyd wedi gorfod disgwyl mwy na 90 munud am le yn y dref.

Mae Aberystwyth hefyd yn y pump uchaf, ar y cyd â Chaerwrangon, Southampton a Glasgow.

Roedd Siopwyr Nadolig Wolverhampton, Efrog, Lerpwl a Chelsmford yn gallu dod o hyd i le i barcio yn rhwydd.

Yn ôl yr arolwg a holodd 2,000 o oedolion, dim ond 34% oedd yn mwynhau siopa Nadolig mewn trefni neu ddinasoedd.

“Mae Nadolig yn gallu bod yn amser o straen ac mae siopa yn sicr yn cynyddu’r pwysau gwaed,” meddai Amanda Edwards ar ran AXA.

“Gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n gwneud niwed i’r car wrth geisio cyrraedd y lle gwag yn y maes parcio cyn pawb arall!”