Mae tua 500 o gartrefi ym Mhenrhyndeudraeth heb nwy, yn ôl cwmni Wales and West Utilities.

Ychwanegodd y cwmni fod peirianwyr yn y pentref yn ceisio datrys y broblem, ar ôl i’r cyflenwad nwy atal brynhawn ddoe.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni eu bod nhw’n ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra ac yn gobeithio datrys y broblem cyn gynted a bo modd.