Cheryl Gillan
Mae’r Adran Drafnidiaeth yn bwriadu gwario £500m yn ychwanegol ar dwnnel rheilffordd gyflym o dan fryniau’r Chilterns.

Roedd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, ymysg ASau oedd yn gwrthwynebu adeiladu rheilffordd gyflym ar y tir prydferth rhwng Llundain a Birmingham.

Ddiwedd y mis diwethaf roedd sïon ei bod hi ar fin gadael ei swydd yng Nghabinet San Steffan, os oedd y cynllun yn cael ei gymeradwyo.

Ond yn ôl papur newydd y Telegraph mae’r Adran Drafnidiaeth wedi dod o hyd i £500m ychwanegol i’w wario ar y prosiect 100 milltir o hyd, sydd eisoes yn costio £32 biliwn.

Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd trafnidiaeth Justine Greening gyhoeddi’r wythnos nesaf y bydd yr arian ychwanegol yn talu am dwnnel 1.5milltir o hyd ger Amsersham.

Mae Cheryl Gillan yn cynrychioli etholaeth Chesham & Amersham ac mae hi wedi wynebu gwrthwynebiad mawr i’r cynlluniau yn lleol.

Roedd hi eisoes wedi pwyso ar yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth i ychwanegu twnnel newydd fel nad oedd y rheilffordd yn hagru cefn gwlad yn yr ardal.

Wrth gyfarfod â’r Adran Drafnidiaeth dywedodd y dylai’r adeiladwyr “weithio â fi a grwpiau yn Chesham ac Amersham er mwyn amddiffyn y Chilterns cymaint ag sy’n bosib”.

Roedd hi hefyd yn annog “lleddfu ar effeithiau’r cynllun drwy ychwanegu rhagor o dwneli”.

Bydd y penderfyniad terfynol ynglŷn â’r prosiect yn cael ei wthio yn ôl i fis Ionawr, wrth i’r twnnel newydd gael ei ychwanegu at y cynlluniau.

Mae Cheryl Gillan wedi bod yn Ysgrifennydd Cymru ers 2010, ac mae hi wedi bod yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros Chesham ac Amersham ers 1992.