Eluned Parrott
Mae un o wleidyddion y Cynulliad yn cysgu allan yn yr oerfel heno, er mwyn deal yn well yr hyn mae’r digartref yn ei wynebu.

 Bydd Aelod Cynulliad Lib Dem Canol De Cymru yn ddigartref am noson yng Nghaerdydd gyda chynghorwyr ei phlaid o’r Rhath, Y Waun Ddyfal a Threlluest.

“Rydw i wedi bod yn ddigon lwcus i fyth orfod cysgu ar y stryedoedd ond bydd heno yn gwella fy nealltwriaeth o’r problemau sy’ gan y digartref yng Nghaerdydd,” meddai Eluned Parrott.

Mae’r Aelod Cynulliad hefyd yn gobeithio codi arian i goffrau Huggard, corf sy’n helpu’r digartref yng Nghaerdydd ac yn dweud bod cynnydd o 50% yn y nifer o bobol sy’n gofyn am gymorth ganddyn nhw yn y flwyddyn ddiwethaf.