Mae’r Heddlu wedi cadarnhau fod dyn wedi marw ar ôl cael ei daro gan drên yn agos at orsaf Llangatwg yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Fe gafodd swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydain eu galw i’r digwyddiad heddiw ar ôl i drên daro dyn.

Roedd swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydain a Heddlu’r De ynghyd a pharafeddygon lleol yn bresennol yn y digwyddiad gafodd ei adrodd i’r Heddlu am tua ugain munud i chwech y bore.

Fe wnaeth y dyn yn ei bedwardegau ddioddef “anafiadau difrifol”.  Cafodd ei gludo i’r ysbyty  ond bu farw’n ddiweddarach.

“Mae’r digwyddiad yn cael ei drin fel un anesboniadwy ar hyn o bryd ac mae swyddogion yn gweithio ar sefydlu enw a manylion y dyn, amgylchiadau ei farwolaeth ynghyd a sut y daeth i fod ar y llinell reilffordd,” meddai Heddlu Trafnidiaeth Prydain.

Fe ddylai unrhyw un a gwybodaeth neu unrhyw un sy’n credu y gallant fod o gymorth i’r heddlu gysylltu gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain  ar 0800 40 50 40 gan ddyfynnu rhif yr achos 62 of 01/12/2011.