Simon Thomas
Mae Simon Thomas wedi cyhoeddi heddiw ei fod yn mynd i sefyll am arweinyddiaeth Plaid Cymru.

Mae’r Aelod Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn y Cynulliad yn dweud fod ganddo weledigaeth hirdymor ar gyfer Plaid Cymru.

Mewn cyfweliad arbennig â chylchgrawn Golwg cyn y cyhoeddiad heddiw, dywedodd Simon Thomas ei fod yn gobeithio ehangu apêl y blaid yng Nghymru.

Mae’n honni fod Plaid Cymru yn dueddol o roi’r argraff i bobol eu bod nhw’n “glwb caeedig” ar hyn o bryd, a’i fod eisiau trawsnewid hynny.

Er mwyn denu aelodau newydd i’r blaid, mae’n gobeithio gallu dangos i Gymry di-Gymraeg fod Plaid Cymru yn blaid iddyn nhw, llawn cymaint a siaradwyr Cymraeg.

Mae Simon Thomas yn credu fod ganddo fantais ar lawer o aelodau Plaid Cymru wrth gysylltu â’r garfan newydd yna o bleidleiswyr.

“Mae’n amlwg fod cael eich magu yn y cymoedd, fod cael eich magu’n ddi-Gymraeg – wedi dysgu Cymraeg ydw i – bod hwnna yn rhoi persbectif gwahanol i fi na petawn i wedi cael fy magu ar fferm yn rhywle yng nghefn gwlad,” meddai Simon Thomas.

Mae dau aelod arall o’r blaid eisoes wedi rhoi eu henwau ymlaen i fod yn arweinyddion – y cyn-weinidog Materion Gwledig ac Aelod Cynulliad Ceredigion, Elin Jones; a chyn-lywydd y Cynulliad ac Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionydd, Dafydd Elis Thomas.

“Mae’n berspectif y mae’n rhaid i bobol ddewis rhyngddyn nhw,” meddai.

Bydd y cyfnod swyddogol i enwebu arweinydd newydd i Blaid Cymru yn dechrau ar 3 Ionawr 2012, ac yn cau ar 26 Ionawr.

Dyfalu

Gyda chyhoeddiad Simon Thomas heddiw, mae’n ymddangos bydd o leia’ tri enw yn yr het erbyn bod enwebiadau’n cau. Ond mae’r dyfalu’n dal i aros dros enw Leanne Wood, un arall o’r cymoedd, sy’n dysgu Cymraeg.

Hyd yn hyn mae Leanne Wood wedi gwrthod cadarnhau ei bod yn mynd i sefyll, ond mae’n dal i ddweud ei bod yn ystyried gwneud.

Mae disgwyl y bydd arweinydd newydd Plaid Cymru wedi ei ddewis erbyn Cynhadledd Wanwyn y blaid ym mis Mawrth 2012.