Peter Hain
Mae Peter Hain wedi bod yn cwrdd â ditectifs Scotland Yard heddiw ynglŷn â honiadau fod ei gyfrifiadur wedi ei hacio tra’r oedd yn Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon.

Mae heddlu’n ymchwilio i dystiolaeth sy’n awgrymu fod ei ffeiliau, yn ogystal â rhai gweithwyr sifil blaenllaw eraill a swyddogion cudd-wybodaeth, wedi eu targedu gan dditectifs preifat a allai fod yn gweithio i News International.

Mae llefarydd Llafur ar Gymru wedi rhoi cyfarwyddiadau i gwmni cyfreithiol ynglŷn â’r achos, sy’n rhan o Operation Tuleta Scotland Yard, sy’n gweithio law yn llaw ag Operation Weeting sy’n ymchwilio i’r hacio ffonau.

Dywedodd llefarydd ar ran Peter Hain ei fod wedi “cwrdd â Heddlu’r Met sy’n arwain Operation Tuleta ynglŷn ag ymchwiliad i hacio honedig yn ymwneud â dogfennau swyddogol a chyfrifiaduron personol yn ystod ei adeg fel Ysgrifenydd Gwladol Gogledd Iwerddon.”

Y gyfreithwraig ar y cyfryngau, Charlotte Harris, o gwmni Mischcon de Reya, fydd yn gweithredu ar ran y gwleidydd.

“O ystyried natur ddifrifol a sensitif yr ymchwiliad presenol, fyddai’n anaddas gwneud sylw pellach ar hyn o bryd,” meddai’r llefarydd ar ran Peter Hain.

Roedd gan Peter Hain, sy’n Aelod Seneddol dros Gastell Nedd, afael ar lawer o wybodaeth gudd yn ystod ei ddwy flynedd fel llefarydd Gogledd Iwerddon, cyn iddo ddod i ben yn 2007. Roedd peth o’r wybodaeth hyn yn ymwneud â chysylltiadau cudd Prydain yng Ngogledd Iwerddon.

Mae llefarydd ar ran News International wedi dweud fod y cwmni yn “cydweithio’n llawn â’r heddlu” ar bob ymchwiliad.