Dywed Gwasanaeth Tân De Cymru bod tân yng nghlwb y Top Hat, yng Nghwmtileri yn Abertileri ddydd Llun wedi ei gynnau’n fwriadol.
Cafodd y gwasanaeth tân ac achub eu galw i’r clwb toc wedi 2pm ddydd Llun, 28 Tachwedd gyda chriwiau tân o Abertileri, Blaenau a Brynmawr yn ceisio diffodd y fflamau. Fe gymerodd bron i bedair awr i ddod a’r tân dan reolaeth.
Dywedodd Andrew Sargent o Wasanaeth Tân De Cymru bod eu hymchwiliad wedi darganfod bod rhywun neu rhywrai wedi cynnau’r tân yn fwriadol ac mae’r heddlu bellach yn cynnal ymchwiliad.
Mae’n debyg mai dyma’r clwb lle roedd y canwr Tom Jones wedi dechrau ei yrfa.