Llun gan Iestyn Hughes
Mae 170,000 o weithwyr yng Nghymru wedi mynd ar streic heddiw, fel rhan o weithredu diwydiannol ar draws y DU dros newidiadau i bensiynau’r sector cyhoeddus.

Yn sgil y streiciau, mae 90% o ddisgyblion Cymru adref o’r ysgol heddiw, mae biniau heb eu casglu ac mae nifer o wasanaethau bysiau, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, triniaethau meddygol a gwasanaethau angladdol wedi eu heffeithio.

Lluniau o’r streicio

Fe gyhoeddodd cyngor Abertawe bod y toiledau cyhoeddus i gyd ar gau ac mae gwasanaethau bws Caerdydd hefyd wedi eu canslo.

Mae 1,500 o’r 1,776 ysgolion yng Nghymru ar gau ac  mae holl ysgolion Blaenau Gwent, Caerdydd, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, a Sir Gaerfyrddin ar gau.

Mae nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi trefnu gydag undebau mewn rhai ardaloedd i sicrhau gwasanaethau hanfodol fel gofal cartref a gofal seibiant.

Piced tu allan i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth

Mae apwyntiadau ysbyty a’r rhan fwyaf o lawdriniaethau wedi cael eu canslo ond dywed y byrddau iechyd y bydd gofal hanfodol fel gwasanaethau cansr ac apwyntiadau dialysis yn dal i gael eu cynnal.

Roedd nifer o weithwyr wedi dechrau picedu bore ma tu allan i ysbytai, prifysgolion, swyddfeydd y Cynulliad a’r Ganolfan Drwyddedu (DVLA) yn Abertawe.

Mae Elin Jones o Blaid Cymru wedi bod yn annerch streicwyr mewn rali ym Mangor ac mae Cyngres Undebau Llafur Cymru wedi trefnu rali sy’n cael ei chynnal yng Nghaerdydd prynhawn ma.

Dywedodd Undeb yr Athrawon eu bod wedi meddwl yn ddwys cyn penderfynu streicio.

Dywedodd swyddog polisi yr undeb yng Nghymru, Owen Hathway eu bod wedi cael  eu gorfodi gan y llywodraeth i streicio a cholli arian ond eu bod yn gobeithio y bydd y llywodraeth yn fodlon cynnal trafodaethau.

Yn y cyfamser mae Llywodraeth Cymru wedi annog Llywodraeth San Steffan i ail-ddechrau trafodaethau.