Carwyn Jones
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio y gallai cyflogau gweithwyr sector cyhoeddus Cymru gael eu gosod yn is na gweddill Prydain os yw adolygiad a gyhoeddwyd gan y Canghellor ddoe yn cael ei weithredu.

Yn ôl  Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, gallai’r adolygiad, sydd i fod i ystyried a yw cyflogau sector cyhoeddus Prydain yn ymateb i’r farchnad leol, olygu bod cyflogau Cymru yn is na sawl rhan arall o Brydain.

“Rydyn ni’n poeni’n fawr am y cynnig i edrych, unwaith eto, ar dâl rhanbarthol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Gallai hyn dorri cyflogau dros 300,000 o weithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru, drwy’r drws cefn.”

Dywedodd y llefarydd fod Llywodraeth Cymru yn sylweddoli fod gweithwyr y sector cyhoeddus eisoes yn ei “chael hi’n anodd”, ac y byddai’r Llywodraeth yn “gwrthod unrhyw gam o’r math yma.”

Mae disgwyl i’r Canghellor George Osborne ofyn i gyrff adolygu cyflogau annibynnol i ystyried sut y gallai tâl yn y sector cyhoeddus ymateb yn well i farchnadoedd lleol, gan ddod yn ôl â’u casgliadau erbyn Gorffennaf 2012.

Bydd yr adolygiad yn edrych ar gyflogau bob un gwiethiwr y sector cyhoeddus heblaw doctoriaid, deintyddion, y lluoedd arfog, a’r farnwriaeth.

Mae’r Trysorlys yn dweud mai dyma yw’r arfer eisoes yn y sector preifat, ond fod y sector cyhoeddus wedi ei osod yn genedlaethol – ac nad yw hynny’n adlewyrchu’r sefyllfa lleol yn aml.

Ond mae Prif Weinidog Cymru yn dweud ei bod hi’n debygol iawn mai arwain at gyflogau is i weithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru fydd canlyniad unrhyw adolygiad o’r fath.