Streicwyr yng Nghaerdydd
Mae gweithwyr y sector cyhoeddus wedi cael eu gwthio i streicio heddiw, yn ôl un o’r rhai sydd ar y llinell biced yng Nghaerdydd.

Dyma’r tro cyntaf i lawer o’r streicwyr fod wrth y llinell biced, yn ôl Steve George, sy’n gadeirydd y pwyllgor ar y cyd yn y Cynulliad, ond mae’n dweud fod y bwriad presennol i newid pensiynau gweithwyr y sector cyhoeddus wedi eu gwthio i brotestio.

“Mae’r llywodraeth eisiau i ni weithio yn hirach, talu llawer mwy, a derbyn llawer llai o ran ein pensiynau,” meddai Steve George. “Ac o beth dwi’n ei ddeall, dydyn nhw ddim wir yn barod i drafod y newidiadau.”


Streicwyr yng Nghaerfyrddin
Mae 170,000 o weithwyr yng Nghymru wedi mynd ar streic heddiw, fel rhan o weithredu diwydiannol ar draws y DU dros newidiadau i bensiynau’r sector cyhoeddus.

Yn sgil y streiciau, mae 90% o ddisgyblion Cymru adref o’r ysgol heddiw, mae biniau heb eu casglu ac mae nifer o wasanaethau bysiau, llyfrgelloedd, triniaethau meddygol a gwasanaethau angladdol wedi eu heffeithio.

Yn ôl Steve George, mae’r anhrefn yma yn “anffodus” ond dywedodd bod yn rhaid iddyn nhw wneud safiad “er mwyn tynnu sylw at ba mor gryf yw gwrthwynebiad pobol” at y newid i bensiynau.

“Dydyn ni ddim eisiau streicio,” meddai. “Dydyn ni ddim eisiau creu anhrefn.”

Mae Steve George yn picedu tu allan i’r Cynulliad ym Mae Caerdydd heddiw, yn cynrychioli gweithwyr yn y Cynulliad sy’n gwneud gwaith cefnogol i Aelodau Cynulliad. Mae’n aelod o undeb y PCS ac hefyd yn cynrychioli undebau’r FDA a Prospect.

“Dwi’n meddwl fod rhan fwya’n haelodau ni, rhan fwya’r bobol sy’n gweithio yma, rhan fwya’ gweithwyr sifil a’r gwasanaethau cyhoeddus wedi eu harswydo gan y newidiadau sy’n cael eu cyflwyno gan y llywodraeth,” meddai.

“Maen nhw’n bobol cymedrol iawn, ond maen nhw’n anhapus iawn â’r hyn sy’n digwydd.”

Yn ôl Steve George, dydi cynlluniau diweddaraf y llywodraeth i newid y system bensiynau, lle bydd yn rhaid i weithwyr gyfrannu mwy at eu pensiynau am gyfnod hirach, a derbyn llai yn y diwedd, ddim yn gwneud synnwyr.

“Yr hyn sydd ganddon ni fan hyn yw rhyw fath o ras at y gwaelod,” meddai wrth Golwg 360.

“Dim ond achos bod y sector preifat wedi gweld eu pensiynau’n gwaethygu – ac mae hynny’n sgandal yn ei hun – dylai pawb arall ddioddef yn yr un ffordd.

“Dylen ni ddim derbyn hyn fel ffordd o drefnu cymdeithas.”