Mae papur newydd The Sun wedi gwadu bod unrhyw ymchwiliad i fywyd personol Gary Speed ar waith cyn ei farwolaeth.
Mae’r honiadau fod y papur tabloid wedi bod yn ymchwilio i agweddau o fywyd personol Gary Speed, ychydig cyn iddo gael ei ddarganfod yn farw yn ei gartref fore ddoe, wedi bod yn lledu ar draws y we yn ystod y dydd.
Ond mae llefarydd ar ran News International, sy’n berchen ar bapur The Sun, wedi dweud wrth Golwg 360 heddiw nad oes unrhyw sail i’r honiadau.
“Does dim gwirionedd yn y sïon,” meddai’r llefarydd prynhawn yma.
Mae’r papur newydd hefyd wedi gorfod gwadu’r sïon hynny heddiw mewn neges i ddilynwyr y papur ar wefan gymdeithasol Twitter.
“Does dim gwirionedd yn y stori,” meddai’r neges ar gyfri The Sun Newspaper.
“Doedd y Sun ddim yn ymchwilio i fywyd Gary Speed mewn unrhyw ffordd.”
Dan y lach
Mae’r sïon wedi ysgogi beirniadaeth chwyrn o’r papur newydd, sydd wedi ennill ei blwyf dros y blynyddoedd wrth gynnal ymchwiliadau o’r fath i fywydau personol sawl un yn y byd cyhoeddus.
Mae cwmni News International, a theulu’r Murdochs sy’n rhedeg y cwmni, eisoes wedi dod dan y lach yn ddiweddar am honiadau yn ymwneud ag arferion ymchwilio rhai o’u papurau.
Ond mae sawl un hefyd wedi achub cam y papur heddiw, gan rybuddio fod “sawl un yn erbyn y Murdochs” yn sgil yr helynt dros arferion ymchwilio, ac i beidio â chredu’r honiadau diweddaraf.