Mae elusen  wedi addo adolygu a gwella ei bolisïau a’i drefniadau prynu ar ôl cyfaddef iddo fethu wrth newid y ffordd yr oedd yn prynu brechdanau ar gyfer Ysbyty Gwynedd.

Mae Prif Weithredwr y WRVS wedi cyfarfod â staff a gwirfoddolwyr yr elusen a hefyd â Menai Deli a oedd yn cyflenwi’r ysbyty o’r blaen ac wedi ymddiheuro am drin y mater mor wael ac am ddiffyg cyfathrebu.

Fis Medi, fe wnaeth Menai Deli golli cytundeb i gyflenwi brechdanau i Ysbyty Gwynedd ar ôl i elusen WRVS, sy’n cynnal y caffi, benderfynu archebu’r brechdanau gan gwmni Ginsters yn hytrach na’r cwmni lleol oedd yn arfer eu darparu.

Fe wnaeth  y Prif Weithredwr, David McCullough gyfaddef  nad oedd yr elusen wedi gwneud digon i gynnwys ac i hysbysu pobl a oedd yn cael eu heffeithio gan ei benderfyniadau.

‘Ddim wedi trin y sefyllfa yn dda’

“Dydyn ddim wedi trin y sefyllfa’n dda, ac fe ddylen ni fod wedi trin Menai Deli, sydd wedi bod yn ein cyflenwi ers 20 mlynedd, yn llawer iawn gwell.  Yn naturiol, mae ein gwirfoddolwyr yn anfodlon iawn â ni.  Fel elusen uchel ei barch, fe ddylen ni fod wedi ymddwyn yn fwy sensitif ac mae’n ddrwg gen i ein bod wedi’u gadael i lawr,” meddai.

Mae’r elusen yn cyfaddef nad oedd wedi talu digon o sylw i gael cynnyrch rhanbarthol yn ei siopau a’i gaffis, a fyddai’n adlewyrchu barn a chwaeth gwirfoddolwyr a phobl yn y cymunedau y mae’r WRVS yn eu gwasanaethu.

Dywedodd y dylai’r WRVS geisio cael y gwerth gorau bob amser i wneud y gorau o’r arian sydd ganddi i helpu pobl hŷn.  O ganlyniad i ymdrech pawb, mae’r WRVS, ers 2006, wedi cyfrannu £545,000 i Ysbyty Gwynedd. Ond mae’n cydnabod fod yn rhaid iddi gydbwyso’n well rhwng prisiau a bod yn gynrychiolydd y bobl a’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.

“Mae’n rhaid i ni ystyried yn ofalus ein meini prawf ar gyfer prynu.  Y rhain fyddwn ni’n eu defnyddio pan fydd ein trefniadau ar gyfer prynu gwahanol gynnyrch yn dod i ben,” ychwanega’r Prif Weithredwr.

“Rydyn ni wedi clywed yn glir iawn gan ein gwirfoddolwyr a chan staff Ysbyty Gwynedd y dylen ni ystyried nid yn unig sut i gael y pris rhataf ond hefyd sut rydyn ni’n cydbwyso’r gofyn am gynnyrch rhanbarthol ac yn ystyried materion amgylcheddol.

“Does yna ddim ateb hawdd i’r broblem honno, dyna pam ein bod ni’n cynnal adolygiad, ac fe fyddwn yn dal i gynnwys ein gwirfoddolwyr wrth symud ymlaen”.

Fe ddywedodd Wyn Williams, perchennog Menai Deli wrth Golwg360 ei fod yn awyddus i wybod beth fydd cynlluniau yr elusen nawr.