Rhodri ab Owen o Positif Politics yn dadlau dros sefydlu corff annibynnol i edrych ar y drefn bleidleisio i’r Cynulliad

 Am yr ail wythnos yn olynol, mae diwygio system etholiadol y Cynulliad wedi bod yn bwnc llosg yng ngwleidyddiaeth Cymru.

Fe dynnodd Golwg360 sylw at y ddadl a gododd wedi’r awgrym gan Lafur Cymru y byddent yn ymgyrchu dros ddychweliad i system y Cyntaf i’r Felin ar gyfer etholiadau’r Cynulliad pe byddai ffiniau etholiadol yn cael eu newid mewn unrhyw ffordd, i gyfateb â ffiniau newydd San Steffan.

Dywedodd Joesph Stalin: “It is enough that the people know there was an election. The people who cast the votes don’t decide an election, the people who count the votes do.”

Mae’r bobl hynny sy’n cyfri’r pleidleisiau yn penderfynu’r etholiadau ac yn benodol, mae’r modd cânt eu cyfri yn gwbl allweddol. Fel nodir yn adroddiad y Gymdeithas Diwygio Etholiadol, os gweithredir y fath newid bydd goruchafiaeth y Blaid Lafur ym Mae Caerdydd hyd yn oed mwy cydnerth nag ydyw yn bresennol.

 Er hynny, nid safbwynt Llafur yw’r unig bwnc trafod parthed newid system pleidliesio y Cynulliad. Mae rhai o fewn Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr yn hyrwyddo newid y drefn presennol o rannu aelodau etholaethol a rhanbarthol i drefn cyfartal rhwng y ddau fath o Aelodau Cynulliad, 30 yr un. 

Mae hyn yn newid nad oedd nifer yn fodlon ei gydnabod tan ychydig ddyddiau yn ôl.

Mandad

Mae mandad yn beth pwysig. Daeth setliad etholiadol 1999 o ganlyniad i’r refferendwm yn 1997 a’r Papur Gwyn a’i rhagflaenodd. Papur Gwyn oedd yn adlewyrchu’r meddylfryd y dylai sefydlu’r Cynulliad arwain at wleidyddiaeth mwy lluosog a chytbwys nag y gwelwyd o’r blaen yng Nghymru, oherwydd ers dyfodiad yr oes ddemocrataidd yng Nghymru, bu’n wlad a gafodd ei dominyddu gan un blaid, yn gyntaf y Blaid Rhyddfrydol ac yna’r Blaid Lafur o’r 1920au ymlaen.

 Ar hyn o bryd does dim mandad ar gyfer unrhyw newid yn y drefn etholiadol.

Annibynnol

Efallai y dyal’r gwleidyddion sicrhau bod gwleidyddiaeth yn cael ei gadw o’r neilltu wrth drafod y mater ac o bosib trosglwyddo’r baich i gorff annibynnol.  Dylai Llywodraeth Cymru hefyd alw ar ddatganoli y pŵer dros unrhyw newidiadau i’r system etholiadol, pŵer sydd gan yr Alban eisioes.

Y Cynulliad Cenedlaethol dylai fod y corff i wneud unrhyw benderfyniadau ynghylch â’r system etholiadol sy’n pennu sut yr etholir aelodau i’r Cynulliad ac nid San Steffan.

Mae hyn, does bosib, yn egwyddor sy’n uno pawb â diddordeb i weld gwleidyddiaeth a llywodraethu effeithiol yn y Cynulliad.