Kirsty Williams, Arweinydd Dems Rhydd Cymru
Mae Llafur a’r Dems Rhydd wedi dod i gytundeb ar y Gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

Daeth y cyhoeddiad ychydig wedi pedwar y prynhawn ’ma – a hynny’n dod â diwedd i wythnosau o ddyfalu ynglŷn â phwy fyddai’n helpu Llafur i gael y mwyafrif angenrheidiol o bleidleisiau i basio’r Gyllideb ar 6 Rhagfyr.

Mewn datganiad y prynhawn ’ma, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones fod y Dems Rhydd wedi cytuno i gefnogi’r Gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesa’ ar yr amod bod £20 miliwn ychwanegol yn cael ei roi i greu Grant Amddifadedd Disgyblion newydd, er mwyn “lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol.”

Bydd yr £20 miliwn ychwanegol yn cael ei adlewyrchu yn y Gyllideb derfynol, sydd i’w chyflwyno ddydd Mawrth nesaf, 29 Tachwedd.

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi llwyddo i gael cytundeb ar y Pecyn Ysgogiad Economaidd gwerth £38.9 miliwn i gael ei wario ar gyfres o fesurau “i ysgogi’r economi ac arbed swyddi.”

Yn ôl Carwyn Jones, mae’r cytundeb yn derfyn ar “nifer o wythnosau o drafodaethau, a gynhaliwyd ag ewyllys da a gyda dymuniad cyfartal i sicrhau cyllideb ar gyfer pobol Cymru.”

Dywedodd arweinydd y Dems Rhydd yng Nghymru y prynhawn ’ma fod y blaid wedi “cyd-weithio â’n gwrthwynebwyr gwleidyddol i gytuno ar Gyllideb er lles Cymru.”

Yn ôl Kirsty Williams, fe fyddai wedi bod yn “haws yn wleidyddol i ni gerdded i ffwrdd,” ond mae’n dweud y bydd eu “dylanwad ar drafodaethau’r Gyllideb yn cael dylanwad mawr ar fywydau plant ac yn helpu rhoi hwb i’n heconomi ni.”

Condemnio’r cytundeb

Ond mae llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Alun Ffred Jones AC, wedi beirniadu’r cytundeb y prynhawn ’ma, gan ddweud ei fod yn “fargen rhad” ar yr economi.

“Dyw’r gyllideb anghyfrifol yma’n gwneud dim i ymateb i’r dirywiad yn sefyllfa’r economi,” meddai Alun Ffred Jones.

“Gall Plaid Cymru ddim a chefnogi’r gyllideb Llafur/Dems Rhydd yma. Dyw’r gyllideb yn cynnig dim ymateb i’r creisis economaidd.”

Mae disgwyl i’r Llywodraeth ennill y bleidlais ar y Gyllideb ar 6 Rhagfyr nawr, gyda chefnogaeth y Dems Rhydd.