Mae Awdurdod S4C yn ystyried cynnig i newid “pwrpas craidd” y Sianel Gymraeg o ddarparu ‘gwasanaeth teledu’ i gynnwys ‘ar draws ystod o gyfryngau gwahanol’.

Cafodd Fforwm Cyfryngau Newydd ei sefydlu gan yr Awdurdod i edrych ar sut i ddatblygu S4C ar y We a ballu.

Amser te ddoe roedd Awdurdod S4C yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar argymhellion adroddiad y Fforwm, sydd hefyd yn argymell “buddsoddi mewn cynnwys ar-lein…yn hytrach na chomisiynu cynnwys”.

Aelodau’r Fforwm yw Carl Morris, Iwan Standley, Marc Webber, Rhys Miles Thomas, Llinos Thomas, Rhodri ap Dyfrig, Peter Watkins Hughes a Daniel Glyn a’r cadeirydd yw Dyfrig Jones, aelod o Awdurdod S4C.

“Mae S4C eisoes wedi datgan fod angen i’r Sianel ddatblygu ym maes Cyfryngau Newydd,” meddai Dyfruig Jones.

“Bydd syniadau ac argymhellion y Fforwm yn hanfodol bwysig i S4C wrth symud ymlaen yn y maes pwysig hwn.”

Ac mae Cadeirydd yr Awdurdod am glywed barn y bobol ar yr argymhellion.

 “Un o’r argymhellion gan y Fforwm ydy fod yr Adroddiad ei hun yn cael ei gylchredeg yn eang a’n bod yn gwahodd pobl sydd â diddordeb yn y pwnc i roi eu sylwadau,” meddai Huw Jones.

“Bydd hyn yn digwydd drwy ymgynghoriad cyhoeddus fel bod ein dealltwriaeth ni o’r dewisiadau strategol rydan ni’n eu hwynebu yn y maes hwn mor gyflawn â phosib.”