Mae adroddiadau fod yr Eisteddfod Genedlaethol eleni wedi gwneud colled o ddegau o filoedd o bunnau.
Cafodd y wybodaeth ei rhyddhau ar wefan twitter ddoe o gyfrif yr Eisteddfod ei hun, ac mi fydd Cyngor yr Eisteddfod yn trafod y sefyllfa yn Aberystwyth yfory.
Yn ôl y trydar roedd gostyngiad yn “incwm cyngherddau, stondinau a nawdd mewn cyfnod anodd wedi creu colledi i’r Eisteddfod, nid costau artistiaid. Dim mwy tan dydd Sadwrn.”
Y llynedd mi wnaeth yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mlaenau Gwent golled o £47,000.
Ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi derbyn £493,000 o grant gan Lywodraeth Cymru.