Bethan Jenkins
Fe ddylai papur y Western Mail gael ei roi mewn perchnogaeth gyhoeddus a’i droi’n fenter gydweithredol.

Yn ôl yr Aelod Cynulliad Bethan Jenkins o Blaid Cymru, mae angen meddwl am atebion “gwirioneddol radical” er mwyn achub y wasg yng Nghymru.

Fe fyddai ei hawgrym hi’n golygu bod y Llywodraeth yn dod i’r adwy ac ymyrryd i achub y Western Mail sydd wedi gweld ei gylchrediad yn cwympo i tua 26,000

Mewn blog ar y wefan Wales Home, mae’n dweud fod angen cymryd yr unig bapur dyddiol cenedlaethol yng Nghymru allan o ddwylo cwmni Trinity Mirror.

Mae’n eu cyhuddo o fynd ag elw allan o Gymru a thorri swyddi yr un pryd – roedd yna gyhoeddiad am 14 o ddiswyddiadau ynghynt yr wythnos yma.

‘Gwirioneddol radical’

“Mae’r amser wedi dod i ddechrau meddwl yn radical, yn wirioneddol radical,” meddai Bethan Jenkins.

“Felly beth am ddechrau gydag awgrym – rhoi’r Western Mail mewn perchnogaeth gyhoeddus, gostwng ei bris i ychydig iawn neu ddim, codi ei gylchrediad yng Nghymru yn barod i’w roi’n ôl i fenter gydweithredol, nid-er-elw yn cael ei redeg gan newyddiadurwyr.”

Mewn cyfweliad gyda Radio Wales, fe ddywedodd fod llwyddiant Golwg 360 yn arwydd o’r ffordd ymlaen, gyda’r wefan yn derbyn grant cyhoeddus ond yn parhau hyd braich oddi wrth y Llywodraeth.