Gyda llai na phythefnos cyn y bleidlais ar gyllideb y Cynulliad, mae ffynhonnell o fewn Plaid Cymru wedi dweud bod ffordd pell iawn i fynd cyn y byddan nhw’n dod i gytundeb â Llafur dros y gyllideb.
“Does dim arwydd ar hyn o bryd y bydd yna gytundeb ar y gyllideb,” meddai’r ffynhonnell wrth Golwg 360.
Daw’r newyddion prin wythnos wedi i Golwg 360 ddatgelu fod Llafur wedi dweud na fydden nhw’n fodlon trafod cyfaddawd ar y gyllideb â Cheidwadwyr Cymru.
Ond mae Plaid Cymru yn dweud y byddan nhw’n parhau i drafod gyda’r Llywodraeth, er nad yw pethau’n symud yn gyflym iawn ar hyd o bryd.
“Dydyn ni ddim yn agos at gyrraedd cytundeb ar y gyllideb,” meddai’r ffynhonnell wrth Golwg 360, er bod y “trafodaethau wedi bod yn ddwys.”
Yn ôl y ffynhonnell, mae angen i Lywodraeth Cymry ymateb mwy i alwadau’r pleidiau os ydyn nhw am ennill eu cefnogaeth i’r gyllideb cyn y bleidlais ar 6 Rhagfyr.
Dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol wrth Golwg 360 fod eu trafodaethau nhw yn dal i fynd yn eu blaen gyda’r Llywodraeth, ond doedden nhw ddim yn fodlon gwneud sylw ar ba mor llewyrchus oedd y trafodaethau hynny.
Bydd yn rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru sicrhau cefnogaeth un o’r pleidiau i’w cyllideb erbyn y bleidlais ar 6 Rhagfyr, er mwyn cael digon o fwyafrif i’w basio, neu wynebu’r posibilrwydd o orfod gohirio’r bleidlais ar y gyllideb tan fis Ionawr.
Mae Golwg 360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.