Gwylwyr y glannau, Caergybi
Mae Llywodraeth San Steffan wedi cadarnhau bod gorsaf gwylwyr y glannau Abertawe yn mynd i gael ei gau.

Dywedodd y Gweinidog Morwrol wrth Aelodau Seneddol y byddai’r orsaf yn y Mwmbwls, sy’n cyflogi 28 o staff, yn cael ei gau erbyn 2015.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud ynglyn â dyfodol gorsaf gwylwyr y glannau Abertawe yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, wrth i Mike Penning amlinellu dyfodol ad-drefnu gwylwyr y glannau y Deyrnas Unedig.

Ond, mae newyddion da i orsafoedd gwylwyr y glannau Caergybi ac Aberdaugleddau, sydd wedi clywed nad ydyn nhw’n mynd i gael eu cau fel rhan o’r cynllun ad-drefnu presennol.

Ar ôl y cyhoeddiad dywedodd Gweinidog y Swyddfa Gymreig, David Jones ei fod yn croesawu’r cyhoeddiad, er yn cydnabod y byddai siom dros gau gorsaf Abertawe.

“Dwi’n falch i weld bod gorsafoedd Caergybi ac Aberdaugleddau yn mynd i ddod yn rhan o rwydwaith cenedlaethol system gwylwyr y glannau.

“Mae rhain i gyd yn rhan o’r cynigion i ail-strwythuro gwasanaethau gwylwyr y glannau presennol y Deyrnas Unedig,” meddai.

“Dwi’n deall y siom ynglŷn â dyfodol goosaf gwylwyr y glannau Abertawe,” meddai, “ond ar y cyfan mae Cymru wedi llwyddo i gadw dau allan o dri o’u gorsafoedd gwylwyr y glannau, sydd un yn fwy nac yng nghynlluniau’r llywodraeth ddiwethaf.”

‘Bywydau yn y fantol’

Ond mae Plaid Cymru yn dweud eu bod nhw’n gandryll â’r penderfyniad.

Yn ôl Bethan Jenkins AC, mae Llywodraeth San Steffan yn “gadael bywydau yn y fantol” wrth gau’r orsaf.

Mae Bethan Jenkins wedi bod gyda nifer o bobol leol yn protestio i gadw’r orsaf ar agor, ac mae’n dweud ei bod hi’n amheus iawn o’r rhesymau tu ôl y penderfyniad.

“Tra ’mod i’n croesawu’r penderfyniad i gadw gwasanaeth gwylwyr y glannau Aberdaugleddau ar agor oherwydd yr angen i gael staff sy’n gyfarwydd ag enwau Cymreig yr ardaloedd, mae hyn hefyd yn wir yn Abertawe,” meddai.

“Gorsaf Abertawe yw’r prysuraf yng Nghymru, a’r ail prysuraf yn y Deyrnas Unedig, yn cydlynu cannoedd o deithiau achub bob blwyddyn.”

Yn ôl Bethan Jenkins, y peth “mwyaf siomedig yw’r ffaith nad oedd cau gorsaf gwylwyr y glannau Abertawe erioed wedi cael ei drafod yn ystod y broses ymgynghori wreiddiol.

“Dyma ymateb dan din iawn i’r lefel annisgwyl o wrthwynebiad i lywodraeth y Deyrnas Unedig yn sgil y sôn y gallai gorsafoedd Aberdaugleddau a Chaergybi gael eu cau.

“Mae’r broses wedi gadael de Cymru yn llawer iawn gwaeth,” meddai Bethan Jenkins.