Mae’r heddlu yn ymchwilio wedi i ddyn farw yn dilyn gwrthdrawiad gyda char ar Ynys Môn heddiw.
Fe fu farw’r dyn 22 oed yn dilyn y gwrthdrawiad ar Stryd Glanhwfa, Llangefni’r bore ma.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw wedi holi sawl dyn mewn cysylltiad gyda beth ddigwyddodd, toc wedi hanner nos.
Roedd y dyn fu farw yn byw yn lleol medden nhw.
Maen nhw wedi galw am lygaid dystion ac unrhyw un a welodd gar Vauxhall Corsa goch neu arian adeg yr wrthdrawiad.
Dylai unrhyw un sydd gyda gwybodaeth ffonio 101.