Barcelona, yn Sbaen
Mae Sbaenwyr yn pleidleisio mewn etholiad cyffredinol heddiw gan obeithio y bydd llywodraeth newydd yn gallu datrys problemau economaidd y wlad.

Mae’r polau piniwn yn awgrymu y bydd y Partido Popular (Plaid y Bobol) ceidwadol yn ennill mwyafrif.

Os yw hynny’n digwydd bydd Mariano Rajoy yn olynu’r Prif Weinidog Presennol, José Luis Rodríguez Zapatero, o’r Blaid Sosialaidd.

Agorodd y blychau pleidleisio am 9am (8am amser Cymru), ac awr yn ddiweddarach yn yr Yr Ynysoedd Dedwydd.

Fe fydd y pleidleiswyr yn ethol 350 o Aelodau Seneddol a 208 o Seneddwyr.

Mae diweithdra wedi codi i 21.5% yn Sbaen ar ôl dwy flynedd o ddirwasgiad.

Mae’r wlad, fel yr Eidal, yn wynebu gorfod gofyn am fenthyciad gan wledydd eraill Ewrop os nad yw’n nhw’n gallu talu ei dyledion anferth.

Dywedodd Mariano Rajoy mai ei flaenoriaeth ef oedd datrys problemau economaidd y wlad.

“Mae’n hollbwysig ein bod ni’n adfer y ddelwedd fyd-eang oedd gan Sbaen, o wlad sy’n gallu creu swyddi, gwlad gref y mae’r byd yn gwrando arni, gwlad nad oes angen i unrhyw un ddweud wrthi beth i’w wneud,” meddai ar drothwy’r bleidlais.