Chernobyl
Mae 334 o ffermydd mynydd Cymru yn dal i orfod dilyn rheolau llym, chwarter canrif ers i drychineb niwclear Chernobyl heintio’u hanifeiliaid a’u tir. 

Ond mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd nawr yn bwriadu lansio ymgynghoriad er mwyn clywed barn pobol ar y syniad o ddiddymu’r rheolau tynn sy’n dal i gadw anifeiliaid o’r ffermydd tir uchel hyn o’r gadwyn fwyd.

Cyflwynwyd y rheolau yn fuan wedi’r ddamwain niwclear yn yr hen Undeb Sofietaidd yn 1986, oherwydd ofnau bod ymbelydredd o’r ddamwain wedi cael ei gario draw i ucheldiroedd Prydain.

Bwriad y rheolau yw atal defaid gyda lefelau uchel o ymbelydredd yn eu cyrff, a radiocaesiwm yn bennaf, rhag cael eu bwyta gan bobol.

Ond erbyn hyn mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn credu bod y lefelau wedi disgyn, a’i bod yn ddiogel i ail-gyflwyno’r anifeiliaid i’r gadwyn fwyd.

Mae’r gostyngiad graddol mewn ymbelydredd wedi digwydd dros y blynyddoedd, gyda’r rhan fwyaf o’r 9,800 o ffermydd a gafodd eu heffeithio bellach yn rhydd o’r rheolau.

Bellach mae 334 o ffermydd yng ngogledd Cymru ac wyth yn Lloegr sy’n parhau i fod â chyfyngiadau arnyn nhw.

Diddymwyd yr holl reolau ar ffermydd Gogledd Iwerddon yn 2000, ac yn yr Alban yn 2010.

Cyfyngiadau – mwy llym na’r angen

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi dod i’r casgliad bod gwerth ystyried diddymu’r rheolau sy’n weddill yn sgil arolwg eang o lefelau radiocaesiwm mewn defaid ar y ffermydd sy’n dal dan warchae.

Yn ôl yr arolwg, prin iawn oedd yr achosion lle’r oedd y radiocaesiwm yn mynd yn uwch na’r lefel sy’n dderbyniol. Mae’r asiantaeth hefyd yn dweud bod y risg i bobol sy’n dod  i gysylltiad â radiocaesiwm fwyaf aml nawr yn isel iawn hefyd.

Yn sgil yr arolwg, mae’r asiantaeth wedi dod i’r casgliad y byddai’r risg i’r cyhoedd o ail-gyflwyno’r anifeiliaid yma i’r gadwyn fwyd yn isel iawn – ac nad yw’r gwaharddiadau llym bellach yn ateb yr angen.

Bydd y cyfyngiadau a’r rheolau presennol ar symud defaid o ardaloedd y gwaharddiad yng Nghymru a Lloegr yn dal i fod mewn grym tra bod yr ymgynghoriad yn mynd yn ei flaen.