Mae Aelod Seneddol Ewropeaidd  wedi sicrhau addewid gan Gomisiwn Ewrop i ystyried adolygiad o ddeddfwriaeth ddadleuol ar dagio electronig i ddefaid (EID) heddiw.

Ers cyflwyno deddfwriaeth EID drwy orfodaeth yn 2010, mae ffermwyr Cymru wedi dangos dro ar ôl tro fod yna broblemau ymarferol yn bodoli a bod angen mwy o hyblygrwydd.

“Mae ffermwyr Cymreig wedi gwneud pob ymdrech, ac wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd, er mwyn cydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth UE hwn, ond y ffaith yw y bydd hi o hyd yn amhosibl i dagio a chadw cofnod o bob dafad mewn praidd, yn enwedig pan fyddan nhw’n cael eu ffarmio i fyny’r bryniau a’r mynyddoedd,” meddai Jill Evans ASE.

“Bydd defaid yn mynd ar goll. Yn ychwanegol i hyn mae’r ffaith nad yw’r dechnoleg gyfredol yn gallu rhoi canlyniad eto sydd 100% yn ddibynadwy,” meddai’r ASE.

‘Trafodaeth addysgiadol’

Fe wnaeth 14 ASE ymateb i  syniad Jill Evans i gwrdd â’r Comisiynydd sy’n gyfrifol er mwyn trafod ffordd ymlaen.

“Rwy’n credu iddi fod yn drafodaeth addysgiadol ac mae’n bleser gen i gyhoeddi bod y Comisiynydd Dalli wedi dweud wrthym ni y bydd yn ystyried adolygiad o’r ddeddfwriaeth i adnabod y problemau.”

Mae’n achos o bryder i ffermwyr hefyd y bydd rhaid tagio defaid hŷn nad oedd yn rhan o’r ddeddfwriaeth flaenorol o 2012. Codwyd y mater yma hefyd gan Jill Evans yn y cyfarfod.