Bydd cyfarfodydd cyhoeddus yn cael eu cynnal ar draws y wlad i gasglu barn pobol am newid y drefn rhoi organau.

Fe fydd y Llywodraeth yn gofyn a ddylai Cymru fod y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno system o ganiatâd tybiedig, sy’n golygu y bydd pobl yn nodi os nad ydyn nhw am roi eu horganau, er mwyn cynyddu nifer y rhoddwyr.

Ar gyfartaledd, mae un person yn marw bob wythnos yng Nghymru tra bydd yn aros am roddwr addas. Ar hyn o bryd mae tua 300 o bobl yn aros am drawsblaniad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yr hoffen nhw weld mwy o organau a meinweoedd ar gael ar gyfer trawsblaniadau ac wrthi’n cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ar draws y wlad ar hyn o bryd i sôn am y cynlluniau yn yr ymgynghoriad papur gwyn a lansiwyd ar 8 Tachwedd i newid y system o roi organau yng Nghymru.

‘Marwolaethau diangen’

“Mae prinder organau a meinweoedd yn dal i achosi marwolaethau a dioddefaint diangen, i gleifion sy’n aros am drawsblaniad ac i’w perthnasau,” meddai’r Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths.

“Wedi i bobl farw, ar hyn o bryd ni fydd eu horganau a meinweoedd yn cael eu rhoi i’w trawsblannu, er bod hynny’n aml yn bosibl. Nid yw hyn yn digwydd am nad oeddent yn dymuno rhoi eu horganau, ond oherwydd nad oeddent wedi ymuno â’r gofrestr rhoi organau.”

Os caiff y ddeddfwriaeth ei chymeradwyo, bydd cyfle i bobl ddewis peidio â rhoi eu horganau os mai dyna yw eu dymuniad, a bydd gan deuluoedd ran i’w chwarae yn y broses o hyd, meddai.

Fe fydd y digwyddiadau yn cael eu cynnal yn Aberafan, Aberystwyth, Bangor, y Barri, Caerdydd, Clunderwen, Cwmbrân, Llandrindod, Merthyr Tudful a Wrecsam yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr. Y Cynghorau Iechyd Cymuned leol sy’n trefnu’r cyfarfodydd.

Mae’r ymgynghoriad ar gynigion y Papur Gwyn yn cau ar 31 Ionawr 2012.