Castell Caerdydd
Mae ymdrech i sefydlu gwersyll protest y tu allan i Gastell Caerdydd wedi methu.

Prynhawn  ddoe, roedd tua 100 o brotestwyr wedi cyfarfod o dan gerflun Aneurin Bevan yn y ddinas ac wedyn wedi croesi’r ffordd i godi eu pebyll ar lain gwyrdd y tu allan i furiau Castell Caerdydd er mwyn sefydlu gwersyll Meddiannu Caerdydd, symbol o brotest tebyg i’r gwersyll sydd wedi bod y tu allan i Eglwys Gadeiriol Sant Paul ers Hydref 15.

Dywedodd yr heddlu wrth y protestwyr yng Nghaerdydd bod yn rhaid iddyn nhw symud oddi yno am eu bod yn torri is-ddeddfau. Mi gafodd chwech o bobl eu harestio.

Mi roedd y protestwyr wedi bod yn dosbarthu taflenni i siopwyr yn y brifddinas yn galw am fath newydd o economi.