Mae un o gyn-olygyddion y Western Mail wedi rhybuddio Aelodau Seneddol fod y sgandal dros hacio ffonau yn eu dallu nhw i broblem llawer mwy yn y diwydiant – sef diflaniad papurau newydd lleol.

Ym mhrif gylchgrawn y diwydiant, y Press Gazette, mae Neil Fowler yn rhybuddio nad oes digon o sylw yn cael ei roi i’r ffaith fod  nifer y papurau newydd lleol wedi disgyn yn aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae’r cyn-olygydd ar hyn o bryd yn astudio’r dirywiad yn  nifer y papurau newydd lleol dros y flwyddyn ddiwethaf, fel cymrawd ymchwil yng Ngholeg Nuffield, Prifysgol Rhydychen, a ddoe fe fu’n ateb cwestiynau gan Aelodau Seneddol ar sefyllfa’r wasg, a’r sgandal hacio-ffonau.

“Dwi’n credu bod hyn wedi tynnu’n sylw ni oddi ar y pethau sydd o wir bwysigrwydd gyda phapurau newydd ar hyn o bryd – sef sefyllfa ariannol y diwydiant papurau newydd lleol a rhanbarthol.

“Dwi’n meddwl y dyliech chi fod yn edrych ar hynny, yn hytrach nag ar y busnes yma,” meddai.

“Mae trideg pump miliwn o bobol ym Mhrydain â rhyw gysylltiad â phapur newydd lleol bob wythnos,” meddai. “Ond mae’r model ariannol wedi newid, ac mae’r bobol yma sy’n ymdopi â hynny bob dydd yn wynebu’r materion go iawn, sef a all eu papur newydd oroesi? A allwn ni gynnal papur sy’n craffu ar Aelodau Seneddol lleol, awdurdodau lleol, a llysoedd lleol?”

Wrth ymateb i gwestiwn y pwyllgor o Aelodau Seneddol a oedd methiant Comisiwn Cwynion y Wasg i atal y sgandal hacio ffonau yn ei boeni, dywedodd fod y mater hynny “yn tynnu gormod ar ein sylw ni”.

“Mae papurau newydd lleol a rhanbarthol yn ymddwyn mewn un ffordd, tra bod papurau newydd Prydeinig yn ymddwyn mewn ffordd arall, ac mae trafod hyn yn ein atal ni rhag mynd i’r afael â’r materion y dylien ni wir fod yn eu trafod.”

Roedd Neil Fowler yn un o nifer o arbenigwyr ac arweinwyr yn y diwydiant oedd yn ymddangos o flaen y pwyllgor ddoe, gan gynnwys golygydd y Scotsman, John McLellan, a golygydd y Liverpool Echo, Alastair Machray.