Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru yn rhybuddio pobl y gall glaw trwm, yn enwedig yn ne Cymru, greu problemau ar y ffyrdd heddiw ac yfory.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn darogan y bydd glaw trwm yn lledu o’r de orllewin drwy gydol y dydd heddiw a fory.

Fe all y glaw trwm mewn rhannau o dde a gorllewin Cymru prynhawn ma a bore fory greu problemau traffig yn ystod cyfnodau prysur bore fory. Mae na bosibilrwydd hefyd y bydd lefelau dŵr afonydd yn codi gan achosi llifogydd mewn mannau.

Mae’r Asiantaeth yn cynghori pobl i wrando ar adroddiadau tywydd a’r ffyrdd ar radio a theledu er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf, neu edrych ar wefan y Swyddfa Dywydd.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am lifogydd ewch i:

www.environment-agency.gov.uk/homeandleisure/floods/31618.aspx or neu ffoniwch 0845 988 1188