Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru yn cwrdd â phobol busnes  o bob rhan o Gymru y bore ’ma, er mwyn trafod yr opsiynau i ddelio ag effaith yr argyfwng economaidd ar Gymru.

Mae Carwyn Jones wedi gwahodd pobol fusnes i ddod i gwrdd ag e’ yng nghyfarfod cyntaf y Cyngor ar Adfer Economaidd – sy’n gobeithio trafod sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi economi Cymru yn y caledi presennol.

Bydd y Prif Weinidog, ynghyd â’r Gweinidog Busnes, Menter Techenoleg a Gwybodaeth, y Gweinidog Cyllid, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Thrafnidiaeth, a’r Dirprwy Weinidog ar gyfer sgiliau i gyd yn cael cyfle i gwrdd â chynrychiolwyr o’r sector breifat ac undebau llafur i drafod sut i greu gwell cydweithrediad er mwyn rhoi hwb i’r economi yng Nghymru.

Ymateb i alwad?

Daw’r cyhoeddiad llai na 24 awr wedi i Lafur gael eu lambastio gan Arwienydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, am beidio a “gwneud dim” i helpu gwarchod economi Cymru.

Yng nghwestiynnau’r Prif Weinidog ddoe cafodd Carwyn Jones ei gyhuddo o ddilyn “polisi o wneud dim” fel tacteg gwleidyddol er mwyn gallu rhoi’r bai ar y Ceidwadwyr am sefyllfa economaidd Cymru.

Ond mae Carwyn Jones yn mynnu fod y Llywodraeth yn gwneud popeth posib, dan yr amgylchiadau, i roi hwb i fusnesau a swyddi yng Nghymru.

“Ry’n ni wedi gwneud gymaint ag sy’n bosib i warchod pobol Cymru yn erbyn y toriadau sydd wedi eu gorfodi arnyn nhw,” meddai.

Addawodd hefyd y byddai mwy o gyhoeddiadau yn cael eu gwneud cyn diwedd y mis ynglŷn â buddsoddi rhagor o arian mewn prosiectau cyfalaf newydd ar draws Cymru.

Mae Carwyn Jones yn cwrdd â nifer o gynrychiolwyr o’r sector breifat yn swyddfeydd y Llywodraeth yn Cathays, Caerdydd heddiw.