Mae’n rhaid i awdurdodau lleol ledled Cymru sicrhau bod digon o arian ar gael i gynnal yr henoed mewn cartrefi gofal, neu fod yn barod i wynebu Adolygiad Barnwrol yn yr Uchel Lys, yn ôl corff sy’n cynrychioli cartrefi gofal ar draws Cymru.

Mae’r cyllid sy’n cael ei roi i ofalu am bobol fregus wedi dioddef yn sylweddol ers blynyddoedd, yn ôl Fforwm Gofal Cymru, sy’n cynrychioli dros 500 o ddarparwyr gofal annibynnol.

Daw’r rhybudd wrth i nifer o awdurdodau wynebu Adolygiad Barnwrol yn yr Uchel Lys oherwydd diffyg gwariant ar y gwasanaeth.

Mae Cyngor Sir Benfro eisoes wedi cael eu gorfodi, yn sgil Adolgiad Barnwrol, i ysytried eto faint o arian y mae’r Cyngor yn ei roi i gartrefi gofal i ofalu am breswylwyr oedrannus a bregus, ac mae dau Adolygiad Barnwrol arall ar Gynghorau Sir Cymru i gael eu cynnal yn y pythefnos nesaf.

Yn ôl cadeirydd Fforwm Gofal Cymru, Mario Kreft, mae comisiynwyr a rheoleiddwyr wedi bod yn rhy barod i roi cost cyn ansawdd yn y blynyddoedd diwethaf.

“Nid yw amryw o awdurdodau lleol wedi bod yn talu sylw dyledus i ganllawiau Llywodraeth Cymru, nac yn ufuddhau i’w cyfrifoldebau cyfreithiol, gwaetha’r modd,” meddai.

“Y gwir amdani yw nad yw ffioedd cartrefi gofal na ffioedd gofal cartref yn flaenoriaeth i awdurdodau lleol, nac erioed wedi bod chwaith – er bod gofalu am bobol sy’n fregus yn gyfrifoldeb statudol.”

Angen cyd-weithio

Mae Fforwm Gofal Cymru wedi galw ar awdurdodau lleol i gyd-weithio â’r sector gwasanaethau gofal er mwyn gwella’r ddarpariaeth sydd ar gael i bobol.

“Mae Fforwm Gofal Cymru yn credu mai agenda partneriaeth yw’r ffordd ymlaen er mwyn darparu gwasanaethau o safon,” meddai Mario Kreft.

“Rwy’n meddwl ei bod hi’n deg dweud fod darprawyr gofal Sir Benfro, oedd â digon o asgwrn cefn i herio grym yr Awdurdod Lleol, wedi newid y tirlun.

“Mae ’na naratif gwahanol nawr, ac ry’n ni’n dechrau gweld awdurdodau lleol yn ceisio gwneud yr hyn fedran nhw er mwyn osgoi Adolygiad Barnwrol.”

Un o’r awdurdodau lleol sydd eisoes wedi pleidleisio o blaid cynyddu’r cyllid i gartrefi preswyl a chartrefi nyrsio preifat yw Cyngor Conwy.

Mae Cyngor Conwy bellach wedi codi taliadau o £346 i £448 yr wythnos am bob preswylydd hŷn mewn cartrefi gofal preifat – sy’n gynnydd o 29.5%. Mae taliadau i gartrefi am breswylwyr oedrannus a bregus eu meddwl hefyd wedi codi 8.1% – o £442 i £478.

Bydd costau cartrefi nyrsio hefyd yn codi o £561 i £598, a chleifion cartrefi nyrsio oedrannus neu fregus eu meddwl yn codi o £603 i £637.