Gwaith dur
Mae arweinwyr undebol yng ngwaith dur Tata yn Llanwern yn awyddus i gynnal trafodaethau ar frys efo cynrychiolwyr y cwmni, sydd newydd gyhoeddi y bydd 70 o swyddi yn cael eu colli yno.

Dywedodd Roy Rickhuss ar ran undeb Community y bydd yr undeb yn “ymchwilio i bob opsiwn” er mwyn cadw rhan o’r busnes ar safle Llanwern, sef Tata Steel Construction Products (TSCP), ar agor ac osgoi’r angen am ddiswyddiadau gwirfoddol.

Yn ôl llefarydd ar ran Tata, mae TSCP yn gwneud colled yn gyson ers blynyddoedd a does dim modd achub y sefyllfa. Pwysleisiodd hefyd mai canran fechan iawn o’r gwaith yn Llanwern ydi TSCP sef 0.25%.

“Dyma engrhaifft arall o fusnes da efo gweithwyr ffyddlon yn wynebu cau oherwydd cyflwr difrifol yr economi,” meddai Mr Rickhuss.

Fe gollwyd 1300 o swydd yn Llanwern yn 2001 pan roddwyd y gorau i gynhyrchu dur tawdd yno.

Mae Tata yn cyflogi 7,500 o staff yng Nghymru ar hyn o bryd gyda 1,400 yn Llanwern a 700 yn Nhrostre ger Llanelli. Fe roddwyd y gorau i gynhyrchu yn Nhrostre am wythnos ym mis Hydref ond dywed y cwmni nad oes bygythiad i swyddi yno.