Jill Evans
Penderfynodd Llys Ynadon Pontypridd heddiw y dylai Jill Evans, sy’n Aelod Seneddol Ewropeaidd dros Blaid Cymru, dalu £575 o ddirwy am wrthod talu ei thrwydded teledu, fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith yn erbyn toriadau i gyllid S4C.

Mae Cymdeithas yr Iaith eisoes wedi dweud bod y brotest peidio-talu-trwydded drosodd ers i Awdurdod S4C gytuno ar delerau i noddi’r sianel gyda’r BBC.

Mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith wedi dweud wrth Golwg 360 ei bod yn “siomedig iawn” gyda chasgliadau’r Ynadon.

“Maen nhw wedi cosbi rhywun sydd wedi bod yn sefyll lan dros ddarlledu yng Nghymru,” meddai.

Cyn yr achos heddiw, fe ofynodd Jill Evans i’r Ynadon gadw golwg ar y ffaith fod ei safiad yn un gwleidyddol yn erbyn newidiadau a thoriadau Llwydoraeth Prydain i S4C heb unrhyw ymgynghoriad â Llywodraeth Gymru.

“Rydw i, fel gwleidydd, wedi ymgyrchu a lobïo gyda miloedd o bobol eraill i ddwyn pwysau ar y llywodraeth i newid ei meddwl. Ond yn wyneb yr ymosodiad ar y sianel Gymraeg, teimlais ddyletswydd i ddatgan na fyddwn yn talu fy nhrwydded deledu nes bod yna sicrwydd cyllid ac anibynniaeth golygyddol gan S4C.”

Yn ôl Bethan Williams roedd “llawer o gefnogaeth i Jill” yn y Llys heddiw. “Roedd yna gymysgedd o bobol o ymgyrch Cymdeithas a’r rheiny oedd yno i gefnogi Jill yn bersonol.”

 Mae Jill Evans ymhlith dros 150 o ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith sydd wedi gwrthod talu’r drwydded ers Hydref y llynedd, ers cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar ddyfodol S4C. Mae hi wedi dweud y bydd hi nawr yn fodlon talu’r ddirwy, a’r drwydded, ond y bydd yn parhau i wthio am ddatganoli’r cyfrifoldeb dros S4C i Gymru.