Mae’r heddlu yn Llanilltud Fawr wedi gofyn am wybodaeth ar ôl i ddyn ifanc arddangos ei hun yn anweddus ar dir yr Atlantic College yng Nghastell Sain Dunwyd.

O gwmpas 9.30pm ar nos Wener Hydref 21 roedd dwy fyfyrwraig yn gweithio yn yr adeilad gwyddoniaeth pan welon nhw’r dyn ifanc yn dangos ei breifats, medden nhw.

 Disgrifir yr un sy’n cael ei amau o gyflawni’r drosedd yn 14 i 15 oed ac o faint corfforol canolig gyda gwallt tywyll, seimlyd sydd wedi ei dorri i siap powlen.

Dywedir fod ganddo lygaid duon a chroen golau ac roedd yn gwysgo hwdi lwyd gyda sgwennu neu batrwm du ar ei du blaen. Roedd yn gwysgo trowsus lliw tywyll.

 Dylai unrhyw un a welodd y dyn ifanc dan amheuaeth, neu unrhyw un welodd unrhyw ymddygiad amheus neu drespaswyr yn y coleg yn yr wythnosau diweddar, ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau yn anhysbys ar 0800 555 111.