Llys y Goron Abertawe
Mae merched yn fwy parod i roi tystiolaeth mewn achosion lle maen nhw wedi dioddef ymosodiadau rhywiol, meddai Heddlu Dyfed Powys wrth Golwg360.

Daw’r sylwadau gan yr heddlu wedi i dri dyn yn eu hugeiniau o Geredigion gael eu dyfarnu’n euog o droseddu’n rhywiol yn erbyn merched dan oed.

Yn ôl barnwr yr achos yn Llys y Goron Abertawe ddoe, mae wedi sylwi ar gynnydd yn nifer yr achosion o’r math yma yng Ngheredigion yn ddiweddar.

“Mae’n bryderus nad hwn yw’r achos cyntaf o Geredigion i mi ddelio gydag ef,” meddai Paul Thomas QC.

“Os oes diwylliant o droseddu yn yr ardal, rwy’n gobeithio y bydd y dedfrydu yma yn atal hynny.”

Cafodd Gethin Mitchell, 22, o Aberaeron, a Joe Charles Taylor, 23, o Lanbedr Pont Steffan, eu dedfrydu i ddwy flynedd o garchar. Ac fe gafodd Evan Evans, 20, o Lanybydder, ddedfryd o 18 mis.

Cyfaddefodd y tri iddyn nhw ymgymryd â gweithgareddau rhywiol gyda merched dan 16 oed.

Mae’r tri wedi cael eu gorchymyn i gofrestru fel troseddwyr rhyw am 10 mlynedd, ac wedi cael eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant am 10 mlynedd.

Cynnydd mewn achosion

Yn ôl llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys, mae’r nifer o achosion sy’n cael eu dwyn yn erbyn troseddwyr rhyw wedi cynyddu ychydig dros y flwyddyn ddiwethaf oherwydd bod merched yn teimlo’n fwy hyderus i roi tystiolaeth.

Fe dderbyniodd Heddlu Dyfed Powys 42 o alwadau yn ymwneud â throseddau rhyw rhwng mis Ebrill a Hydref eleni, o’i gymharu â 38 o alwadau yn ystod yr un cyfnod yn 2010.

“Er bod cynnydd bach yn nifer y troseddau rhyw sydd wedi eu riportio yng Ngheredigion dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r ymchwiliadau yma yn arwain yn amlach at bobol yn cael eu herlyn yn y Llysoedd,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Mae hyn wedi ei briodoli i ddewrder y dioddefwyr, a dycnwch a phroffesiynoldeb y tîm ymchwilio, sy’n cynnwys Gwasanaeth Cwnsela o’r Canolfannau Cyfeirio Ymosodiadau Rhyw, Timoedd Cyfreithiol Gwasanaeth Erlyn y Goron, yn ogystal â Swyddogion heddlu.”