Abertawe
Abertawe yw un o’r dinasoedd gyda’r lefelau uchaf o bobol ifanc sydd allan o waith, addysg a hyfforddiant.

Mae’n arwydd o’r gwahaniaeth anferth rhwng gwahanol rannau o wledydd Prydain ac yn creu problemau cymdeithasol sylweddol, yn ôl ymchwil gan y Sefydliad Gwaith.

Yn Abertawe, mae tuag 20% o bobol ifanc rhwng 16 a 24 oed yn gwneud dim – un o’r deg dinas waetha’ yng nglwedydd Prydain, o blith y 53 tref a dinas yn yr arolwg.

Yr ymchwil

Mae’r Sefydliad wedi gwneud yr ymchwil ar ran corff arall y Sefydliad Ecwiti Preifat, gan ddadansoddi ffigurau’r Llywodraeth ym mis Awst.

Roedd y rheiny’n dangos bod 979,000 o bobol ifanc trwy wledydd Prydain heb waith, addysg na hyfforddiant a bod 186,000 rhwng 16 ac 18 oed.

Ond roedd yna wahaniaeth mawr o ardal i ardal gyda’r rhan fwya’ o’r dinasoedd gwaetha’ yng ngogledd Lloegr ac ardaloedd mwy ymylol.

Ar ochr arall y fantol, roedd nifer o ddinasoedd ac ardaloedd lle’r oedd y lefel o dan 10% – ymhlith y rheiny, roedd rhannau o orllewin Llundain, Rhydy6chen, Aberdeen, Caerefrog, Plymouth, Caergrawnt, Bryste a Guildford.

Rhybuddio

Mae’r adroddiad yn rhybuddio y bydd y broblem yn costio arian mawr i’r “llywodraeth, ein heconomi a’n cymdeithas”, yn ogystal â niweidio unigolion.

Roedd dinasoedd gyda ffigurau uchel yn dueddol o gael problemau mwy “gydag economïau gwan, sgiliau isel, ac yn aml yn dibynnu ar y sector cyhoeddus am swyddi”.

“Mae angen i’r Llywodraeth edrych ar frys ar y problemau y mae llawer o bobol ifanc yn eu hwynebu yn llawer o’n trefi a’n dinasoedd.

“Yn y dinasoedd hyn, maen nhw’n wynebu dyrnod ddwbl: llai o gyfleoedd gwaith ac economi gwan a llai o wasanaethau oherwydd toriadau yn y sector cyhoeddus.”