Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Senedd wedi rhybuddio bod Cymru’n wynebu cynnydd “dramatig” mewn diweithdra ymysg pobol ifanc yn sgil pandemig y coronaferiws.

Dywed y Pwyllgor fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru “weithredu ar frys” gan alw am fuddsoddiad i’r sector sgiliau a phrentisiaethau.

Mae’n debyg y bydd degau o filoedd o fyfyrwyr coleg a phrifysgol sy’n graddio’r haf hwn yn ei chael hi’n anodd iawn ffeindio gwaith.

Rhybuddiodd y Pwyllgor hefyd am yr effaith y gallai toriadau cyllid gael ar brentisiaethau a rhaglenni hyfforddi eraill.

Byddai economi wan yn arwain at fwy o weithwyr yn cael eu cyflogi ar gytundebau oriau-sero ac yn lleihau’r nifer o gyfleoedd hyfforddi.

“Mae gan y Pwyllgor bryderon mawr am yr hyn sy’n cael ei ystyried yn un o brif heriau’r pandemig erchyll hwn yn y tymor hwy: cynnydd dramatig tebygol mewn diweithdra ymhlith pobl ifanc,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, Russell George AS.

“Os nad yw Llywodraeth Cymru’n gweithredu, mae’n gynnydd sy’n bygwth creithio ac arafu rhagolygon cyflogaeth cenhedlaeth o bobl ifanc a rhwystro’r adferiad cenedlaethol.”

Dywed yr Athro Ewart Keep o’r Adran Addysg ym Mhrifysgol Rhydychen:

“Mewn marchnad lafur ac ynddi lawer o ymgeiswyr ond nifer cymharol fach o leoedd, un o’r prif bethau maen nhw’n chwilio amdano yw profiad gwaith perthnasol, ac mae pobl ifanc heb brofiad o dan anfantais.”