Mae tua chwarter gweithlu ffatri yn Ynys Môn yn hunanynysu yn dilyn sawl achos o’r coronafirws yno medd undebau.

Ddywedodd yr undebau wrth BBC Wales Today eu bod nhw wedi cael gwybod fod yna 13 o achosion ymysg staff ffatri cynnyrch cyw iâr 2 Sisters yn Llangefni, a bod 110 aelod o staff yn hunanynysu rhag ofn.

Cwmni’r 2 Sisters yw un o gynhyrchwyr bwyd mwyaf Prydain gyda chwsmeriaid fel KFC a Marks & Spencer.

Yn ôl eu gwefan, maen nhw’n cynhyrchu oddeutu traean o’r cynnyrch cyw iâr sydd yn cael ei fwyta bob dydd ym Mhrydain.

Diogelu a chefnogi

Er nad ydi’r cwmni wedi cadarnhau’r niferoedd, dywedodd Paddy McNaught, swyddog rhanbarth undeb Unite wrth y rhaglen ei bod yn sefyllfa hynod o ddychrynllyd i’r staff sydd yn y ffactri wrth “weld eu cydweithwyr i ffwrdd o’r gwaith a chymaint yn derbyn canlyniadau positif o Covid-19.”

Dywedodd llefarydd ar ran 2 Sisters mai eu blaenoriaeth nhw yw parhau i ddarparu’r gweithle mwyaf diogel posibl a chefnogi pob aelod o staff yn Llangefni.

“Rydyn ni wedi bod yn llwyddiannus am dri mis heb un achos cadarnhaol gael ei adrodd ar y safle” meddai.

“Mae iechyd a diogelwch pob cydweithiwr yn bwysig i ni, a dyna pam yr ydym wedi cael cyfres o fesurau yn eu lle ers peth amser, gan gynnwys systemau glanhau a diheintio rheolaidd a dwys, gwisgo offer amddiffyn mewn ardaloedd cynhyrchu, a gweithredu ymbellhau cymdeithasol drwy’r ffatri.

“Rydym yn adolygu ac yn esblygu’r mesurau hyn yn rheolaidd er mwyn tawelu meddyliau a diogelu pob un o’n cydweithwyr, ac rydym wedi ymdrechu’n fwy byth ers i achosion cadarnhaol gael eu cadarnhau.

Yn ôl y cwmni mae’n nhw bellach yn cymryd tymheredd pawb wrth iddyn nhw fynd i mewn i’r ffatri ac mae yna swyddogion penodedig yno sydd yn sicrhau bod ymbellhau cymdeithasol yn cael ei gynnal mewn ardaloedd prysur.