Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am dystion ar ôl i ddynes ddioddef ymosodiad anweddus yng Nghonwy.

Roedd y ddynes 33 oed yn cerdded ar ei phen ei hun ar Ffordd Bangor yng Nghonwy rhwng hanner nos ac 1am ar ddydd Sul 30 Hydref, pan ymosododd dyn arni.

Mae’r dyn yn cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn, yn ei 30au hwyr i 40 oed. Roedd yn eithaf tenau gyda gwallt brown tonnog. Roedd yn gwisgo crys-t tywyll a jîns tywyll.

Fe ddylai unrhyw un a welodd y digwyddiad neu’r ddynes, oedd yn gwisgo du ac yn cerdded tuag at Gonwy i gysylltu â DC Petra Grimes yn CID Llanelwy drwy ffonio 101,  0845 607 1001 (Llinell Gymraeg) neu ffonio Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.