Mae’r Gelli Gandryll ymhlith wyth lle yng ngwledydd Prydain sydd wedi’u dewis i gymryd rhan mewn menter i helpu i wella mynediad cymunedau at arian parod.
Bydd yr ardaloedd llwyddiannus yn cymryd rhan yn y cynllun peilot mynediad at arian cymunedol (CACP) ac yn gweithio gyda’r diwydiant bancio i edrych ar atebion i gadw arian yn hyfyw i bobol a busnesau.
Y llefydd eraill a gafodd eu dewis yw:
- Ampthill yn Swydd Bedford
- Burslem yn Swydd Stafford
- Botton yng Ngogledd Swydd Efrog
- Cambuslang yn ne Sir Lanark
- Denny yn Falkirk
- Lulworth yn Swydd Dorset
- Rochford yn Essex
Gallai ffyrdd o wneud gwelliannau gynnwys gosod peiriannau twll yn y wal newydd, cael lle i fanwerthwyr ollwng arian yn lleol neu rannu cyfleusterau canghennau banc.
Bydd ffocws hefyd ar “gynhwysiant digidol”.
Gallai gwell cysylltiadau band llydan neu well sgiliau digidol fod yn ffyrdd o helpu pobol i gael gafael ar arian.
Mae’r defnydd o arian parod wedi plymio yn ystod ymlediad y coronafeirws, gyda llawer o siopau’n annog pobol i dalu â cherdyn a phobol yn ymweld â’r peiriannau twll yn y wal yn llai aml.
Gŵyl y Gelli
Mae gan y Gelli Gandryll lawer o fanwerthwyr ac ymwelwyr annibynnol, sy’n gwneud gallu busnesau i gael gafael ar arian parod yn hanfodol.
Mae ei gŵyl lyfrau flynyddol yn codi heriau ychwanegol, gyda nifer fawr o bobol sydd angen mynediad i ychydig o arian parod am gyfnod byr.
“Mae un o bob pedwar cwmni bach ar y stryd fawr yn dweud mai arian parod yw’r dull talu mwyaf poblogaidd ymhlith cwsmeriaid,” meddai Martin McTague, cadeirydd Ffederasiwn y Busnesau Bach.
“Wedi dweud hynny, roedd y defnydd o arian parod yn gostwng cyn i’r coronafeirws daro, ac mae’r pandemig wedi cyflymu’r dirywiad hwnnw.”
Dywed Natalie Ceeney, cadeirydd yr arolwg “Access to Cash”, fod symudiad enfawr wedi bod dros y degawd diwethaf o arian i daliadau digidol, a bod Covid-19 wedi cyflymu’r duedd honno ymhellach.
“Ond rydyn ni’n gwybod nad yw taliadau digidol yn gweithio i bawb eto, ac i lawer o unigolion a chymunedau, mae arian parod yn dal yn hanfodol,” meddai.
“Ond mae’r byd yn newid, allwn ni ddim defnyddio hud i gael ein canghennau banc a’r tyllau yn y wal yn ôl.
“Yn hytrach, mae angen i ni ddefnyddio dulliau arloesol i ddatblygu atebion newydd yn ogystal â defnyddio dulliau gweithredu sydd wedi eu profi i ddiwallu anghenion pobol.”