Mae undeb lafur Unsain yn erbyn ailagor ysgolion yng Nghymru ar Fehefin 29, ac yn galw ar weinidogion i adolygu’r amserlen ar unwaith.

Daw hyn wedi cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ddydd Mercher yn dweud eu bod yn bwriadu ailagor ysgolion yng Nghymru ar ddydd Llun, Mehefin 29.

Yn dilyn asesiad llawn, dywed Unsain nad yw canllawiau Llywodraeth Cymru yn darparu digon o arweiniad nac eglurder.

Mae’r undeb hefyd o’r farn nad oes digon o amser i sicrhau diogelwch staff a disgyblion wrth agor ysgolion ddiwedd y mis.

“Dyw Unsain ddim yn barod i beryglu diogelwch cymorthyddion, glanhawyr, arlwywyr, gofalwyr na staff gweinyddu mewn ysgolion,” meddai Cadeirydd Fforwm Ysgolion Unsain, Jonathan Lewis.

“Wrth gwrs bod staff eisiau dychwelyd i ysgolion, ond allwn ni ddim cymryd risgiau diangen er mwyn cyflawni hynny mewn ychydig o wythnosau.

“Mae cynlluniau cadarn yn cymryd amser. Byddwn yn parhau i weithio â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i gynllunio ag asesu dychweliad i ysgolion, ond allwn ni ddim brysio.”

Fe gyhoeddodd y Llywodraeth eu canllawiau ar gyfer ailagor ysgolion i holl blant Cymru ddydd Mercher Cyhoeddi canllawiau ar gyfer ailagor ysgolion