Owain Pennar a'i fab Gwern
Bwrw goleuni ar daith unigolyn i frwydro’r salwch MS fydd rhaglen ar BBC Radio Cymru nos yfory.

Gweithio i’r Herald Cymraeg yng Nghaernarfon oedd Owain Pennar yn niwedd yr wythdegau pan sylweddolodd bod rhywbeth o’i le – nid oedd yn gallu gweld sgrin y cyfrifiadur yn iawn.

Fe gymerodd hi flynyddoedd i feddygon ac arbenigwyr ddarganfod fod ganddo Sglerosis Ymledol, MS.

Bydd y rhaglen ddogfen BBC Radio Cymru, Straeon Bob Lliw yn dilyn hanes Owain, sy’n dad i ddau, gan ddarganfod sut beth ydy byw gyda’r cyflwr o ddydd i ddydd.

Mae Owain yn gallu cerdded ychydig gyda dwy ffon ond mae’n treulio llawer o’i amser mewn gwahanol fathau o gadeiriau olwyn.  Mae’n dal i weithio’n llawn amser fel swyddog y wasg i S4C ac yn defnyddio cadair wedi ei addasu’n arbennig yn ei waith.

‘Addasu’

Mae gan Gwern, ei fab ieuengaf pedair oed, Syndrom Down. Mae Gwern yn rhoi modd i fyw i’w dad.  “Mae’n dda iawn ‘da fi,” meddai Owain, “mae’n addasu i fi – mae’n gwybod mod i’n ffaelu gwneud lot o bethau.”

Yn ystod y rhaglen bydd cyfle i gyfarfod ag un o’r nyrsys MS – gwasanaeth sy’n bwysig iawn i Owain Pennar a phobol eraill sy’n byw gyda’r cyflwr.

Mi gawn ni hefyd gyfarfod â’i ffrind, Elis. Mae’n cofio un achlysur lle daeth y ddau i lawr yr allt serth o Gastell Dinefwr fel dwy gath i gythraul a gorfod taro i mewn i goeden er mwyn gwneud yn siŵr nad oedd Owain yn mynd tîn dros ben yn ei gadair.

Straeon Bob Lliw: Stori Owain, Dydd Mercher, Tachwedd 2, BBC Radio Cymru, 6pm

Dydd Sul, Tachwedd 6, BBC Radio Cymru, 5pm.