Mae wyth yn rhagor o bobol wedi marw yng Nghymru yn sgil y coronafeirws, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cafodd 141 o achosion dyddiol newydd eu cofnodi heddiw (dydd Mawrth, Mai 26).
Mae’n golygu bod o leiaf 1,282 o bobol wedi marw yng Nghymru erbyn hyn, gydag o leiaf 13,556 o achosion.
Dydy’r ffigurau ddim yn fanwl gywir yn sgil y ffordd maen nhw’n cael eu cofnodi.