Mae gwaith buddugol Prif Gyfansoddwr Eisteddfod T yr Urdd wedi cael ei alw’n “gyfanwaith” gan y beirniad Eilir Owen Griffiths.
Ddoe (Dydd Llun, Mai 25), datgelwyd mai Cai Fôn Davies o Benrhosgarnedd ennillodd wobr y Prif Gyfansoddwr mewn seremoni ddigidol.
Celt John o Ddolgellau oedd yn ail, a Heledd Wyn Newton o Gaerdydd yn drydydd.
Y feirniadaeth
“Beth mae y cyfansoddwr hwn yn llwyddo i wneud yn gelfydd yw cyflwyno llawer o adrannau byr gwrthgyferbyniol a’u datblygu yn effeithiol o fewn 2 funud – mae o’n gyfanwaith,” meddai Eilir Owen Griffiths yn ei feirniadaeth.
“Mae’r cyfansoddwr yn amlwg iawn wedi arfer ysgrifennu i linynnau ac yn llwyddo i greu gweadau diddorol a rhannu y syniadau rhwng yr offerynnau yn effeithiol. Mae newydd-deb yma. Llongyfarchiadau!”
Bydd Cai Fôn Davies yn derbyn tlws sydd wedi ei greu gan y cerflunydd Ann Catrin.
Enillodd wobr y Prif Gyfansoddwr am gyfansoddi darn o gerddoriaeth dim mwy na dau funud o hyd ar unrhyw thema, gyda’r beirniad yn dweud ei fod wedi “cynnal y gwrandawiad drwyddi draw”.
Yr enillydd
Mae Cai, 20 oed, yn ei ail flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor yn astudio Cymraeg a Hanes ac yn gyn-ddisgybl Ysgol Tryfan, Bangor.
Llwyddodd i ennill tair o brif gystadlaethau’r llwyfan dan 21 oed yr Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018 yn ogystal â chipio’r wobr gyntaf ym mhrif gystadleuaeth llefaru Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019.
Mae hefyd yn un o’r chwech a fu’n cystadlu am Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel y llynedd.
Mae Eisteddfod T yn cael ei chynnal rhwng Mai 25-29.
Hyd yn hyn, mae 4,000 wedi cystadlu mewn dros 80 o gystadlaethau, gyda mwy o gystadlaethau yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos.