Mae uwch swyddog mewn bwrdd iechyd a ddioddefodd yn wael yng nghyfnod cychwynnol y pandemig ym Mhrydain wedi dweud nad oedd hi’n bosibl profi cleifion mewn ysbytai am y coronafeirws pan oedd amheuaeth eu bod yn dioddef ohono.
Dywedodd Dr Sarah Aitken, cyfarwyddwr meddygol dros dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, sy’n cynnwys Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen a De Powys, mai dim ond cleifion a oedd yn arddangos symptomau ac a oedd wedi teithio o wlad oedd wedi ei daro gan y coronafeirws oedd modd eu profi, a hynny tan 9 Mawrth.
Lledaeniad yn y gymuned
Dywedodd fod ymchwiliad dilynol wedi dangos tystiolaeth o ledaeniad y coronafeirws yn y gymuned yng Ngwent erbyn 6 Mawrth.
Mewn cyflwyniad ysgrifenedig i Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Senedd, dywedodd nad oedd y Bwrdd “wedi’i awdurdodi” i brofi cleifion am y coronafeirws os nad oedden nhw wedi teithio o wlad oedd wedi ei daro gan y coronafeirws.
Dywedodd ei chyflwyniad fod “cynnydd chwim” mewn achosion o’r coronafeirws yn gynnar ym mis Mawrth a bod hynny wedi “cyflymu” gan gyrraedd uchafbwynt adeg y Pasg, ar ôl i’r cyfyngiadau cloi gael eu cyflwyno ledled y Deyrnas Unedig.
Rhybudd blaenorol
Roedd y Bwrdd Iechyd yn un o’r ardaloedd a ddioddefodd waethaf yn nyddiau cynnar y pandemig ym Mhrydain ac roedd ganddo bron i hanner yr achosion yng Nghymru.
Roedd Dr Aitken wedi rhybuddio o’r blaen fod “clwstwr” o achosion o’r coronafeirws a’i fod yn dilyn “yr un patrwm a welwyd yn yr Eidal”.
Dywedodd wrth y Pwyllgor: “Cafodd ein claf cyntaf ei dderbyn i ofal dwys a’i brofi’n bositif ar 11 Mawrth – [sylwyd ar y claf hwn] pan ehangwyd profi i gynnwys pobl nad oeddent wedi teithio.
“Be’ sydd wedi dod i’r amlwg wedyn yw bod y firws wedi sefydlu ei hun yn y gymuned yng Ngwent erbyn yr wythnos gyntaf honno ym mis Mawrth.
“Bryd hynny, roedd y profi yn seiliedig ar hanes teithio yn unig.
“Cawsom ein hunain yn ymateb i’r firws yn gynnar [yn y pandemig yn y Deyrnas Unedig] a chynyddodd ein defnydd o ofal critigol yn eithriadol o gyflym. Ar y brig, roedd 49 o gleifion mewn gofal critigol – ein huchafswm arferol yw 28.
“Y peth pwysig yw ein bod ni wedi ymdopi… ond fe ddaethon ni i ben drwy ailgyfeirio ein gweithlu.”
At y dyfodol
Dywedodd Judith Paget, Prif Weithredwr y Bwrdd, mai’r hyn sy’n peri’r pryder mwyaf iddynt at y dyfodol yw pandemig coronafeirws arall ar y cyd ag achosion o’r ffliw tymhorol blynyddol.
“Dwi’n meddwl mai’r peth sy’n ein poeni ni fwyaf yw’r cyfuniad o dymor ffliw a thymor Covid,” meddai.
“[Mae angen] meddwl ymlaen llaw, sut rydyn ni’n symud drwy’r haf i’r gaeaf a pharatoi ein hunain gan ddefnyddio popeth rydyn ni wedi’i ddysgu o’r wyth wythnos diwethaf.”