Mae 17 yn rhagor o bobol wedi marw yn sgil y coronafeirws yng Nghymru, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’n golygu bod 1,224 o bobol bellach wedi marw yn sgil y feirws.

Cafodd 166 o achosion newydd eu cofnodi, gan fynd â’r cyfanswm i 12,570.

Ond mae’r ffigurau go iawn yn debygol o fod yn uwch o lawer yn sgil y ffordd mae achosion yn cael eu cofnodi.